Cynhaliwyd Prosiect Meithrin Gwydnwch Lles Trefdraeth rhwng Mai 2021 a Mawrth 2023.
Aeth y Prosiect i’r afael â gwydnwch ar draws sawl maes, gan gynnwys yr economi, yr amgylchedd, treftadaeth, diwylliant, y celfyddydau, iechyd a gofal cymdeithasol.
Gwerthuswyd y Prosiect ar y cyd gan Law yn Llaw dros Newid mewn partneriaeth â Fforwm Llesiant Trefdraeth. Chwaraeodd Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro rôl gefnogol a nhw oedd deiliad y gronfa. Goruchwyliwyd y Prosiect gan Grŵp Llywio yn cynnwys aelodau o Fforwm Trefdraeth a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro.
Darllenwch fwy am y prosiect yn ein hadroddiad llawn isod.