Roedd ein digwyddiadau Fforwm yn canolbwyntio ar themâu yn ymwneud â chymunedau o le a datblygu cymunedol.
Cynhaliwyd cyfres o dri digwyddiad dros dri mis a ddaeth â'r cymunedau, y trydydd sector, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ymchwilwyr, ymarferwyr, cynllunwyr a rheolwyr ynghyd drwy gyflwyniadau a thrafodaethau:
Roedd pedwerydd digwyddiad ar Ymchwil a Datblygu mewn Cymunedau o Le yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o ‘A yw’n Cyfrif?’, a dynnodd sylw at yr angen yng Nghymru am raglen ymchwil a gwerthuso, wedi’i hategu gan seilwaith. Roedd y cyflwyniadau a’r drafodaeth yn edrych ar y rhesymau pam fod buddsoddiad a chapasiti cyffredinol yn y maes ymchwil eang hwn yn isel ac mae yna wthiad o hyd mewn rhai chwarteri i werthuso’n amhriodol yn seiliedig ar fetrigau’r sector cyhoeddus. Roedd y digwyddiad hefyd yn mynd i’r afael â phryderon bod angen cefnogi cymunedau i feithrin gwybodaeth a sgiliau a chael yr amser a’r adnoddau i werthuso a mecanweithiau ar gyfer rhannu allbynnau ymchwil a gwerthuso a byddai mwy o gefnogaeth a ddarperir ar gyfer cydweithio a rhwydweithio o werth.
