Er bod Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd ac wedi gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) a osododd ddyletswydd gyfreithiol ar lunwyr polisi i ystyried effeithiau hirdymor eu penderfyniadau, mae lle o hyd i wella’r gweithrediad. Ar y llaw arall, mae cymunedau yn cymryd agwedd weithredol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Mae'r enghreifftiau a gyflwynir yn amrywio o brosiectau ynni adnewyddadwy a glanhau traethau i ddolydd bach ac addysg. Yn ogystal, o ran gweithredu ar y cyd, mae Extinction Rebellion wedi bod yn dod ag unigolion, grwpiau a ffigurau cyhoeddus ynghyd i annog llywodraeth y DU i gymryd camau brys. 

Os yw dyfodol i bawb am fod yn sicr, mae’n hanfodol bod cymunedau’n parhau i weithio tuag at atebion cynaliadwy ar lefel leol. Mae hefyd yn hanfodol bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn cydnabod effaith sylfaenol yr argyfwng hinsawdd ar bob maes polisi, yn gweithio tuag at ddyfodol gwyrddach ac yn buddsoddi mewn camau gweithredu sy'n cefnogi diogelu'r amgylchedd ac yn ei dro, lles cymunedol.