Lansiwyd y Prosiect Barod i Fynd ym mis Ionawr 2021, ar gyfer unigolion a grwpiau sydd am gryfhau eu heffaith hirdymor ar les eu cymunedau.

Darparodd Barod i Fyd gyfle i weithio gydag elusen fach, Solva Care, a thynnu ar agweddau o waith y sefydliad sydd wedi’u cyhoeddi ym Mhecyn Cymorth Gofal Solfach. 

Cyd-gynhyrchwyd y Prosiect gyda thîm bach o Solfach Care. Dechreuodd ei fywyd fel prosiect i ledaenu Pecyn Cymorth Gofal Solfach ond datblygodd yn brosiect ymchwil gweithredu a oedd yn anelu at rannu profiadau o gamau gweithredu cadarnhaol, syniadau ac arfer da mewn cymunedau i gefnogi ac annog mentrau cymunedol mwy cynaliadwy. 

Mae Pecyn Cymorth Gofal Solfach yn adnodd a ddatblygwyd gan weithwyr, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr Gofal Solfach i goladu dysg sefydliad bach ar lawr gwlad yng nghymuned wledig, arfordirol Solfach yn Sir Benfro. Mae Gofal Solfach wedi bod yn gweithredu’n gynaliadwy ers pum mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae’r sefydliad wedi esblygu, gan ddatblygu ei strategaeth mewn ymateb i ymchwil, gwerthuso ac arfer gorau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Wrth wraidd y gwaith hwn mae cydweithio o amgylch syniadau ac archwilio asedau, blaenoriaethau ac anghenion i adeiladu ar gryfderau presennol. 

Yn ystod y Prosiect, bu’r tîm yn gweithio gyda dwy gymuned, Llanrhian Connected Community a Llangwm Village Voices. Roedd cyllideb waith fechan ar gyfer pob Prosiect Peilot a pharhaodd y Rhaglen tan ddiwedd 2021.

Fe wnaethom hefyd ddatblygu cronfa o adnoddau ar-lein yn ystod y Prosiect. Roedd hyn yn cynnwys offer a chanllawiau ymarferol, erthyglau perthnasol a dolenni defnyddiol. Yn ogystal â hyn fe wnaethom greu cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd trwy gynnal cyfres o Ddosbarthiadau Meistr i gymunedau. 

Adroddiad yn dod yn fuan – Adroddiad Cryno ENG + CYM

Podlediad ‘Barod i Fynd’