Gwelwyd gwir bŵer cymunedau trwy gydol pandemig Covid-19. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i bawb, rhaid harneisio’r cryfder hwn i weithredu, gan alluogi cymunedau i ffynnu nid goroesi yn unig. Mae gallu cymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau er mwyn creu newid yn bwysig, gyda phrofiad byw yn hanfodol i ddatblygiad llwyddiannus a pharhaol yn y maes hwn.
Er mwyn i ymdrechion datblygu fod yn effeithiol, mae cydweithredu rhwng sefydliadau trydydd sector, awdurdodau lleol, y bwrdd iechyd lleol a Llywodraeth Cymru yn hanfodol. At hynny, mae angen cyfleoedd lle mae cymunedau'n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u clywed o fewn systemau democrataidd. Mae’r partneriaethau presennol o fewn y Sir yn darparu sbringfwrdd ardderchog i rymuso cymunedau ymhellach a gellid eu defnyddio i helpu i feithrin economi llesiant sy’n rhoi cymunedau seiliedig ar leoedd a phrofiadau byw wrth galon atebion.