Mae cyflwr permacrisis yn cael effaith ddinistriol ar gymdeithas ac unigolion ledled y sir gan gynnwys argyfwng costau byw, argyfwng hinsawdd a llawer mwy. Ai economi llesiant sy’n seiliedig ar gymdeithas sy’n canolbwyntio ar les dynol ac amgylcheddol yn hytrach na ffactorau economaidd yw’r ateb?

Nod prosiectau a gyflwynwyd o dan gais consortiwm rhaglen Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU oedd cwmpasu a chyflwyno ystod o fentrau sy'n cyd-fynd ag economi lles yn Sir Benfro. Roedd cais y consortiwm yn gefnogol i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru fel un o aelodau sefydlu Grŵp Llywodraethau’r Economi Llesiant a Chynghrair Economi Llesiant Cymru. Roedd y mentrau a gyflwynwyd hefyd yn cyd-fynd â Strategaeth Economaidd ac Adfywio 10 mlynedd Cyngor Sir Penfro, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (2015) a Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.