Mae Cylchoedd Cefnogaeth yn ymagwedd ataliol at les sy'n cefnogi adeiladu perthnasoedd a rhwydweithiau cymunedol unigolion sy'n profi lefelau isel o gysylltedd cymdeithasol.

Mae’n ymagwedd ataliol at les sy’n ceisio creu a gwella cysylltiadau ar gyfer unigolion fel eu bod yn teimlo eu bod yn cael mwy o gefnogaeth yn eu bywydau.

Mae cysylltiad cymdeithasol yn gysylltiedig â disgwyliad oes uwch; amddiffyn rhag datblygiad iselder a hybu adferiad o iselder presennol; a'r potensial i gael effaith gadarnhaol ar iechyd gwybyddol. Mae ymchwil hefyd yn dangos y gall unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol effeithio'n sylweddol ar les person; gyda'r cysylltiad rhwng cael cysylltiadau cymdeithasol cryf ac ystyrlon a byw bywyd iach a hapus yn cael ei ddeall yn gynyddol. 

Ym mis Rhagfyr 2021, buom yn gweithio gyda chynrychiolwyr o Gyngor Sir Penfro, PAVS, y Bwrdd Iechyd, Iechyd y Cyhoedd, Volunteering Matters, yr I-Team (Sir y Fflint) i gydgynhyrchu Prosiect Peilot Cylchoedd Cefnogaeth o sesiynau hyfforddi a mentora yn Sir Benfro. Roedd y Prosiect wedi'i angori mewn partneriaethau aml-sector ac roedd yn cynrychioli ymrwymiad pwysig i werthuso dulliau arloesol o atal a lles yn y Sir. Ariannwyd y Prosiect a’i werthusiad gan y Gronfa Unigrwydd ac Arwahanrwydd Cymdeithasol 2021/2022.  

Arweiniodd ein tîm y gwerthusiad o’r Prosiect Peilot, gan weithio ochr yn ochr â’r comisiynydd a’r tîm cyflawni i adeiladu egwyddorion ymchwil gweithredu i’r Prosiect o’r cychwyn cyntaf. Mae partneriaethau yn y Sir o'r farn bod gwerthuso yn elfen hanfodol wrth wneud penderfyniadau am brosiectau a gomisiynir, gan sicrhau bod dysgu gwerthfawr yn cael ei gasglu er mwyn llywio buddsoddiad a gweithgareddau yn y dyfodol.