Mae Gyda’n Gilydd dros Newid wedi creu partneriaeth â Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) i lansio prosiect sydd â’r nod o ddatblygu Adnodd Ymgysylltu Cymunedol sy’n Seiliedig ar Asedau. Mae'r prosiect hwn yn nodi'r cam cyntaf tuag at greu adnodd ymarferol a deinamig y gellir ei ddefnyddio gan bartneriaethau ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i ddeall a defnyddio asedau cymunedol yn well.
Mae’r adnodd wedi’i gynllunio i alluogi cymunedau, cyrff cyhoeddus, a rhanddeiliaid i fapio, ymgysylltu â, a manteisio ar asedau lleol—fel gwasanaethau cyhoeddus, seilwaith, ac adnoddau cymunedol—mewn ffyrdd sy’n creu llesiant hirdymor a datblygu cynaliadwy. Mae’r fenter hon yn cefnogi nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n canolbwyntio ar osod datblygu cynaliadwy a llesiant wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.
Mae amcanion allweddol y cydweithio rhwng Gyda’n Gilydd dros Newid a WISERD yn cynnwys:
- Ailstrwythuro'r gronfa ddata asedau cymunedol bresennol a luniwyd gan Gyda’n Gilydd dros Newid ar gyfer Sir Benfro, gan ei gwneud yn haws ei defnyddio, yn hygyrch ac yn haws i'w chwestiynu a'i dadansoddi.
- • Cynnal ymarfer cwmpasu i archwilio a ellir awtomeiddio'r broses casglu data ar gyfer y gronfa ddata a'i hehangu i gynnwys awdurdodau lleol eraill.
- Integreiddio data o ffynonellau pellgyrhaeddol ehangach, gan gynnwys InfoEngine (cyfeirlyfr o wasanaethau trydydd sector yng Nghymru) ac OpenStreetMap, i sicrhau cwmpas cynhwysfawr y gellir ei ehangu o asedau seiliedig ar le.
Trwy'r gwaith hwn, mae Gyda’n Gilydd dros Newid a WISERD yn datblygu adnodd a fydd yn helpu i nodi asedau lleol yn fwy effeithiol a chefnogi sefydliadau a arweinir gan y gymuned i fynd i'r afael â bylchau yn y gwasanaethau a ddarperir. Bydd y canfyddiadau’n galluogi cymunedau i wella eu gallu i ymgysylltu a gwneud penderfyniadau tra’n creu cyfleoedd i gydweithio ar draws sectorau.
Dywedodd Sue Denman, Gyda’n Gilydd dros Newid:
"Pleser o’r mwyaf yw gweithio gyda WISERD i greu adnodd a fydd yn allweddol i drawsnewid sut mae cymunedau'n nodi ac yn defnyddio eu hasedau lleol. Bydd yr adnodd hwn yn cefnogi partneriaethau ar bob lefel i wneud penderfyniadau gwybodus, strategol sy'n cyd-fynd ag egwyddorion economeg lles a datblygu cynaliadwy yng Nghymru."
Mae'r prosiect wedi cynnwys ymgynghori â chymunedau lleol a phartneriaid statudol i sicrhau ei fod yn cwrdd ag anghenion y byd go iawn. Bydd y cam nesaf yn canolbwyntio ar ehangu'r adnodd i ranbarthau eraill, ei fireinio ar sail adborth, a datblygu dangosfyrddau data rhyngweithiol i'w wneud yn fwy hygyrch.
Bydd ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid yn allweddol i sicrhau addasrwydd a chywirdeb yr adnodd, gyda’r nod yn y pen draw o greu adnodd hygyrch ar y cyd sy’n cefnogi llesiant ledled Cymru wledig.
Nodiadau i Olygyddion
- Comisiynwyd y Prosiect gan Gyda'n Gilydd dros Newid a ariennir yn graidd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru a grant bach gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gydag adnoddau ychwanegol gan WISERD.
- Mae Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) yn sefydliad ymchwil blaenllaw yng Nghymru, sy’n canolbwyntio ar ymchwil gymdeithasol ac economaidd i wella lles cymunedau ledled y wlad.
- Nod yr Adnodd Ymgysylltu Cymunedol sy'n Seiliedig ar Asedau yw cynorthwyo i roi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ar waith drwy wneud adnoddau cymunedol yn fwy gweladwy a hygyrch.