Dechreuwyd Gyda’n Gilydd dros Newid gan y bobl sy'n ymwneud â'r elusen llawr gwlad Gofal Solfach, mewn ymateb i gynlluniau a phrofiadau'r gymuned wrth ddatblygu pentref hapus, iach a chysylltiedig. Rydyn ni’n credu, trwy weithio gyda'n gilydd, ledled y sir a thu hwnt, fod gennym well siawns o greu bywyd da i bawb a datrysiadau cynaliadwy i'n planed. 

Penderfynwyd ar ein rhaglen o waith partneriaeth ar y cyd gan gymunedau a sefydliadau trydydd sector a statudol mewn dau gyfarfod a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2020 ar Ddyfodol Cefnogaeth i weithredu dan Arweiniad y Gymuned yn Sir Benfro. Er mwyn cryfhau'r weledigaeth ar gyfer y gwaith hwn, cytunodd sefydliadau partner ar Gynllun Deg Pwynt er Budd Gweithredu wedi’i arwain gan y Gymuned a Chymunedau yn nodi sut y gallai sefydliadau weithio orau gyda'i gilydd i gefnogi lles pawb a rhoi llais cymunedau wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.  

Derbyniodd Gyda’n Gilydd dros Newid gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru ym mis Medi 2020 i fwrw ymlaen â’r rhaglen waith a dyfarnwyd ail gam y cyllid ym mis Medi 2022, am dair blynedd.  

Rydyn ni’n gweithio gyda ac er budd cymunedau ac rydyn ni’n agored i unrhyw syniadau gan unigolion, grwpiau a sefydliadau sydd eisiau hyrwyddo'r nod hwnnw.