Rydym yn dîm cynhwysol, arloesol a gweithgar.
Rydym yn dod â gwybodaeth a sgiliau o sectorau amrywiol, gan weithio gyda'n gilydd ar gyfer cymdeithas deg a chyfartal a phlaned iach. 

Sue Denman

Sylfaenydd ac Ymddiriedolwr Law yn Llaw at Newid

Rwy’n gweithio gyda’r Tîm i osod cyfeiriad Law yn Llaw at Newid a dylunio a gwerthuso prosiectau mewn partneriaeth ag eraill. Rwy’n angerddol am adeiladu pŵer a chryfder cymunedol ar gyfer bywyd gwell i bawb. Mae arnom angen ffordd newydd o feddwl am gyfoeth – un sydd wedi’i dosbarthu’n fwy cyfartal ac sy’n ymwybodol o’r effeithiau y bydd ein gweithredoedd yn eu cael ar genedlaethau’r dyfodol. Mae gen i gefndir proffesiynol mewn ymchwil a datblygu ym maes iechyd y cyhoedd sy'n rhychwantu'r sectorau preifat a chyhoeddus. Athro Emeritws ym Mhrifysgol Caerdydd.

Jessie Buchanan

Sylfaenydd a Chydlynydd Law yn Llaw at Newid 

Fy rôl i yw sicrhau bod popeth a wnawn yn TfC yn gwneud gwahaniaeth a’i fod yn cael ei gydgysylltu â’n partneriaid niferus. Rwy’n credu yng ngrym cydweithio tuag at nod cyffredin gan fod perthnasoedd da wrth wraidd datblygiad cymunedol effeithiol. Rwy’n frwd dros ddod o hyd i atebion cynaliadwy i’r argyfwng hinsawdd ac ecolegol sy’n hanfodol i les cymdeithas ac sy’n dylanwadu ar ein gallu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau sy’n ymwneud ag iechyd yn lleol ac yn fyd-eang.

Angus Gaskell

Swyddog Angori Law yn Llaw at Newid

I’ve been the Anchor Officer for TfC since August 2023, holding responsibility for administration, communications, and media. 

I have an academic background in International Disaster Management. I’ve had experience in both project development and care in both the private and public sector. I’m committed to promoting sustainable development from a community led approach and promoting community voices in matters that are important to them.